Тютчевиана

Cайт рабочей группы по изучению
творчества Ф. И. Тютчева

 

Статья о Тютчеве на валлийском – Ffedor Tiwtsief

Cymraeg
Материал из Википедии – свободной энциклопедии


Ffedor Tiwtsief

Roedd Ffedor Ifánofits Tiwtsief (yn Rwsieg — Фёдор Иванович Тютчев) yn fardd enwog a diplomydd Rwsiaidd.

Ganwyd y 5ed Rhagfyr 1803 a bu farw yr 27fed Gorffenaf 1873. Roedd ef yn byw ar adegau ym Munich a Thurin ac y roedd yn gynefin Heine a Schelling. Doedd e ddim yn cyfrannu at fywyd llenyddol, nac yn ei alw ei hun yn ysgrifennwr. Tuag at 400 o'i gerddi sydd ar glawr, ac mae rhai llinellau ohonynt yn cael eu dyfynnu'n aml yn Rwsia.

Mae'r cerddi cynnar yn perthyn i dradoddiad barddoniaeth Rwsiaidd yr 18fed ganrif. Yn y 1830au traddodiadau Oes Rhamantaidd Ewrop (a'r Almaen yn arbennig) sydd yn gryf iawn yn ei farddoniaeth. Cerddi telynegol athronyddol yw'r rhain: myfyrion ar y dynged ddynol, ar yr hollfyd, ar yr ansawdd sydd yn brif bwnc ohonynt. Yn y 1840au ysgrifennodd rai erthyglau gwledyddol ynglyn â'r berthynas rhwng Rwsia a gwareiddiad y Gorllewin. Yn y 1850au creuodd Tiwtsief rhai rhieingerddi trywan y mae serch yn cael ei weld fel trasiedi ynddynt. Mae'r cerddi hyn wedi cael eu huniaethu â'r Cylch Denísïefa, nid amgen, y cerddi a gafodd eu cysegru i gariad y bardd, E. A. Denísïefa. Yn y 1860au a'r 1870au cerddi gwleidyddol sydd yn goruchafu yn ei farddoniaeth.

Cerdd enwocaf Tiwtsief yw Silentium! — anogaeth chwerw i ddistawrwydd edifaru'r ffaith nad yw'r naill dyn ddim yn gallu deall y llall o'r bron. Mae'r llinell "Anwiredd yw meddwl wedi'i adrodd" (yn Rwsieg Мысль изреченная есть ложь) yn un o ddiarhebion Tiwtsief sydd yn cael eu dyfynnu amlaf. "Ni ellir deall Rwsia drwy feddwl" (Умом Россию не понять) a "Ni roddir i ni ddarogan sut yr ymatebith ein gair i ni" (Нам не дано предугадать, как наше слово отзовется) yw'r rhai eraill.


Википедия, свободная энциклопедия [Электронный ресурс] : Fiodor Tiutchev, вариант 43914, последняя правка 7 апреля 2006, 21:57 UTC / Авторы Википедии. – Электрон. дан. – Штат Флорида. : Фонд Викимедиа, 2006. – Режим доступа: ссылка.

НаверхПерейти к началу страницы
 
  © Разработчики: Андрей Белов, Борис Орехов, 2006.
Контактный адрес: [email protected].